Sut i gyfrannu
Outdated translations are marked like this.
Ewch ati!
Ydych chi'n angerddol am ryddid meddalwedd a chymunedau cod agored? Ydych chi'n hoff o feddalwedd MediaWiki, Wikipedia neu unrhyw safleodd Wikimedia eraill?
Yna, rhannwch eich sgiliau yma a dysgu gan gyfranwyr eraill. Bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddechrau drwy ddarparu trosolwg o feysydd lle gallwch gymryd rhan.Mae cynnwys pob prosiect Wikimedia wedi'i ryddhau dan drwyddedau am ddim. Cewch ysgrifennu cod i gyrraedd, ailgymysgu a thyfu'r gronfa enfawr hon o wybodaeth am ddim. Dilynwch y canllawiau i gychwyn arni gyda'r API, sydd ar gael ar bob wici MediaWiki, ac APIs eraill am gynnwys a Wikidata. Mae ffynonellau data eraill ar gael hefyd, gan gynnwys dympiau XML a SQL.
Mae ein cod i gyd yn ffynhonnell agored ac am ddim. Gallwch ddewis prosiect, darparu darn a gosod tasg!
Mae prosiectau Wikimedia yn defnyddio ieithoedd amrywiol megis PHP a JavaScript yn MediaWiki a'i estyniadau, Lua (mewn Templedi), CSS/LESS (mewn crwyn ac yn y blaen), Objective-C, Swing a Java (mewn Apiau Symudol ac yn Kiwix), Python (yn Pywikibot) neu C++ (yn Huggle) neu C# (yn AWB). Crëwch fotiau i brosesu cynnwys a chadwch eich offer ar Toolforge. Haciwch ar apiau symudol neu ar raglenni i'r bwrdd gwaith. Neu helpwch Peiriannu Dibynadwyedd y Safle i gynnal ffurfweddiad y gweinydd.
Learn more at New Developers/Introduction to the Wikimedia Technical Ecosystem .Profi
Helpwch i wella ansawdd ein prosiectau drwy brofi PHPUnit, profi porwyr awtomatig trwy Selenium ac Integreiddio Parhaus. Gwnewch eich adroddiad cyntaf am fỳg neu helpwch gydag adroddiadau cyfredol am fygiau.
Fel llysgennad technoleg, helpwch ddefnyddwyr eraill Wicimedia gyda phroblemau technegol, adroddwch Newyddion Technoleg i roi gwybod i ddefnyddwyr am yr hyn sy'n mynd i effeithio arnynt ac ymunwch â grŵp y llysgenhadon a'r rhestr bostio i weithredu fel pont rhwng y datblygwyr a'ch wici lleol.
Gall ysgrifenwyr Saesneg wella dogfennau MediaWiki, tudalennau cymorth eraill ac unrhyw rhan o'r wefan hon, mewn gwirionedd.
Os ydych chi'n rhugl mewn iaith arall nad yw'n Saesneg, gallwch ymuno yn yr ymdrech i gyfieithu'r wefan hon a meddalwedd MediaWiki.
Helpwch ddefnyddwyr a datblygwyr sy'n chwilio am atebion wrth y ddeg gymorth neu sianeli cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol MediaWiki.
Helpwch i roi egwyddorion cynllunio Wikimedia ar waith mewn prosiectau sy'n chwilio am adborth UX.
Gallwch gyfarfod ag aelodau eraill o'r gymuned ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Canllawiau i'ch arwain trwy dechnolegau MediaWiki and Wikimedia.
Mwy o wybodaeth ddefnyddiol
Cyfathrebu
- Mae sawl ffordd y gallwch chi gysylltu â chymuned Wicimedia.
- Gallwch ddilyn a rhannu newyddion Wikimedia ar eich rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol hefyd.
- Gallwch danysgrifio i Newyddion Technoleg er mwyn derbyn crynodeb wythnosol ar eich tudalen defnyddiwr o newidiadau i'r feddalwedd heb jargon technegol.
Golygu a thrafod ym MediaWiki
Os ydych chi heb ddefnyddio MediaWiki o'r blaen:
- Cofrestrwch eich cyfrif defnyddiwr ar mediawiki.org.
- Dysgwch sut i olygu tudalennau wici gyda VisualEditor neu drwy olygu'r ffynhonnell.
- Cewch chi olgygu eich tudalen ddefnyddiwr gyhoeddus fel y mynnoch. Cyflwynwch eich hun. Gallwch ddefnyddio'r Templed Gwybodaeth i Ddefnyddwyr. Dysgwch fwy drwy ddarllen cyfarwyddiadau Wikipedia.
- Gwiriwch Cymorth: Llywio .
- Gallwch drafod cynnwys pob tudalen a'i thudalen Drafod gysylltiedig. Gallwch chi gyfathrebu â defnyddiwyr drwy ychwanegu neges gyhoeddus yn eu tudalennau trafod nhw. Dysgwch ragor yn Help:Talk pages .